SL(5)367 – Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn i'w gwneud gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ac adrannau 18(2), 30(6), 36(8) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“Deddf TTT”).

Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r Ddeddf TTT yn bennaf a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“Deddf CRhT”). Mae’r Rheoliadau:

1.   yn diweddaru cyfeiriad anghywir yn Atodlen 6 i'r Ddeddf TTT i egluro nad yw rhwymedigaeth i drosglwyddo hawliau talu o dan y cynllun taliadau sylfaenol o gymorth incwm i ffermwyr, yn unol â Rheoliad (UE) Rhif 1307/2013, wedi'i chynnwys fel cydnabyddiaeth drethadwy ynghylch dyfarnu prydles at ddibenion treth trafodiadau tir (gan ddisodli cyfeiriad at y cynllun “taliad sengl” blaenorol o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009);

2.   yn diwygio Atodlen 18 o'r Ddeddf TTT i ddarparu na fydd elusennau cofrestredig yr UE na'r AEE, ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn cael hawlio rhyddhad elusennau rhag treth trafodiadau tir o dan Atodlen 18 i'r Ddeddf honno;

3.   yn darparu na fydd cynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth (“CCAC”) sydd wedi eu cyfansoddi, eu hawdurdodi a'u rheoli o dan gyfraith gwladwriaeth yr UE neu'r AEE, bellach yn cael yr un driniaeth â CCAC yn y DU ar ôl ymadael â'r UE (ac yn diwygio adran 36(8) o'r Ddeddf TTT o ganlyniad i'r ddarpariaeth hon);

4.   yn diwygio'r Ddeddf CRhT i ddileu'r cyfyngiad ar benodi Aelod o Senedd Ewrop yn aelod anweithredol o Awdurdod Cyllid Cymru; a

5.   yn gwneud rhagor o ddiwygiadau technegol a mân ddiwygiadau i'r Ddeddf CRhT sy'n deillio yn sgil Ymadael â'r UE.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Standing Order 21.2(ii) – ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud odano

Mae rheoliad 4 yn darparu bod CCAC fel y'i disgrifir ym mharagraff (2) o'r Rheoliad hwnnw i'w drin fel nad yw'n CCAC at ddibenion y Ddeddf TTT a'r Ddeddf CRhT fel y mae'n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir. Effaith y rheoliad yw na fydd CCAC yr UE neu'r AEE, sydd wedi ei gyfansoddi, ei awdurdodi a'i reoli o dan gyfraith gwladwriaeth yr UE neu'r AEE bellach yn cael yr un driniaeth â CCAC yn y DU ar ôl Ymadael â'r UE.

 

Fodd bynnag, mae'r disgrifiad o'r cynllun a nodir yn Rheoliad 4(2) yn cyfateb yn fras i'r disgrifiad o gynllun o'r fath a nodir yn adran 36(6) o'r Ddeddf TTT, sydd i'w ystyried fel CCAC ar hyn o bryd at ddibenion y Ddeddf TTT a'r Ddeddf CRhT fel y mae'n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir. Mae rheoliad 6(2) yn hepgor adran 36(6) o'r Ddeddf TTT o ganlyniad i Reoliad 4 er mwyn datrys y ddarpariaeth groes hon.

 

Felly, ymddengys fod rheoliadau 4 a 6(2) yn cael yr effaith o wrthdroi'r bwriad a ddatganwyd yn y Ddeddf TTT ynglŷn â thrin math penodol o gynllun buddsoddi torfol yr UE neu'r AEE, na fyddai'n ymddangos i fod yn ymarferiad disgwyliedig o'r pwerau galluogi y mae Gweinidogion Cymru yn dibynnu arnynt, sef adrannau 36(8) a 78(1) o'r Ddeddf TTT. Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau yn esbonio, ym mharagraff 2.2:

 

“The provisions…are necessary to ensure the respective provisions in the LTT Act are compatible with the UK’s international obligations following the UK’s exit from the EU. Due to the restriction on the use of the Withdrawal Act powers (found in section 8(7)(a) of that Act), it is necessary to make these provisions using the powers conferred by the LTT Act because they may have the effect of imposing or increasing a tax liability.”

 

2. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae adran 36(12) o'r Ddeddf TTT yn cynnwys diffiniad o “[g]ynllun buddsoddi torfol”, a fydd yn dod yn ddiangen o ganlyniad i'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.

 

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau pellach i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

13 Mawrth 2019